Egwyddor 5

Sgiliau

Dylai elusennau geisio sicrhau bod yna sgiliau digidol ym mhob lefel yn y mudiad. Mae llwyddiant digidol yn ddibynnol iawn ar hyder, cymhelliant ac agwedd y bobl sy’n rhedeg elusennau ac yn gweithio ac yn gwirfoddoli ynddyn nhw.

Mae sgiliau technegol a sgiliau meddal, megis cwestiynu, darbwyllo a dylanwadu, yr un mor bwysig.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Gwiriwch y disgrifiadau swydd ar gyfer eich staff – ydyn nhw’n cynnwys sgiliau digidol fel rhan o fanyleb y person?
  • Dysgwch gan y brodorion digidol yn eich tîm - gofynnwch iddyn nhw am awgrymiadau ar gyfer rheoli eich ffrwd newyddion, er enghraifft drwy ddefnyddio TweetDeck
  • Adolygwch sgiliau eich tîm i asesu a oes bylchau mewn hyfforddiant yn eich tîm/neu a oes angen i chi recriwtio aelod newydd o’r tîm i roi elfennau digidol eich strategaeth ar waith

Arfer gorau ar gyfer elusennau

Mae elusennau angen gweledigaeth glir, pwrpas ac eglurder o ran sut maen nhw’n defnyddio technoleg ddigidol. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn dod yn ei flaen yn strategol.

Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

NSPCC

Astudiaeth achos:

NSPCC

Dysgwch sut mae TLC yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Rheoli Risgiau a Moeseg

Mae angen i elusennau bennu a rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â materion digidol er mwyn cadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a delio ag unrhyw broblemau o ran enw da.

19-01