Egwyddor 6

Rheoli Risgiau a Moeseg

Mae angen i elusennau bennu a rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â materion digidol er mwyn cadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd a delio ag unrhyw broblemau o ran enw da.

3 quick actions for charities

  • Darllenwch eich gwefan eich hun i weld a yw mor dryloyw am eich sefydliad ag y gallai fod, ee beth am lwytho i fyny eich cyfrifon blynyddol i’ch gwefan
  • Edrychwch i weld a oes gennych chi bolisi ar gyfer delio â chwynion am eich gwasanaeth drwy eich sianel cyfryngau cymdeithasol
  • Darllenwch eich gwefan eich hun i weld a oes ffordd y gall defnyddwyr weld a yw eich gwefan yn defnyddio cwcis. Gofynnwch i chi’ch hun a yw’n ddigon amlwg?

Arfer gorau ar gyfer elusennau

Mae technoleg ddigidol yn datblygu’n gyflym, a bydd angen i unrhyw sefydliad sy’n defnyddio offer ar-lein asesu’r risgiau a’r foeseg sy’n gysylltiedig â hynny. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae eich sefydliad yn rheoli risgiau a moeseg.

Mae’r canllawiau’r un fath ar gyfer elusennau bach a mawr. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

numlogo

Astudiaeth achos:

Ugly Mugs

Dysgwch sut mae Ugly Mugs yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Gallu i addasu

Mae llawer o astudiaethau diweddar wedi dangos y bydd sefydliadau nad ydynt yn ystyried sut maen nhw’n addasu i’r oes ddigidol yn colli perthnasedd ac ymgysylltiad.

8-01