Egwyddor 1

Arweinyddiaeth

Dylai digidol fod yn rhan o set sgiliau pob arweinydd elusen fel ffordd o helpu ei sefydliad i aros yn berthnasol, cyflawni ei weledigaeth a chynyddu ei effaith.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Rhannwch rai ohonoch chi eich hun ar Twitter fel Prif Swyddog Gweithredol, ac ysgrifennwch eich Trydariadau eich hun.
  • Ystyriwch sut y gallech chi ddefnyddio digidol i wneud eich dulliau llywodraethu'n fwy effeithiol. Sut mae eich bwrdd yn gweithio?, Sut mae’n cael ei weinyddu? Allech chi drefnu rhith-gyfarfodydd gan ddefnyddio Skype ar gyfer gwaith neu Zoom?
  • Dylech gynnwys sgiliau digidol ymysg y sgiliau rydych chi’n chwilio amdanynt fel rhan o archwiliad sgiliau eich bwrdd.

Arweinyddiaeth: Arferion sy’n cael eu Hargymell

Gallwch ddefnyddio’r canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur cynnydd eich sefydliad gydag arweinyddiaeth ddigidol.

Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

YHA

Astudiaeth achos:

YHA (Cymru a Lloegr)

Dysgwch sut mae YHA yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei heffaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Adnoddau

Yn anffodus, doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw swyddi. Rhowch gynnig ar chwiliad arall.

Egwyddor Nesaf: Dan Arweiniad Defnyddwyr

Dylai elusennau wneud anghenion ac ymddygiad buddiolwyr a rhanddeiliaid eraill yn fan cychwyn ar gyfer popeth a wnânt yn ddigidol.

11-01