Egwyddor 3

Diwylliant

Dylai gwerthoedd elusennau ddylanwadu ar y ffordd maen nhw’n gweithio, ac os yw’r amgylchedd yn iawn dylai feithrin llwyddiant digidol.

Bydd y diwylliant cywir yn datblygu hyder a chymhelliant y staff a’r gwirfoddolwyr ym maes digidol, ac yn eu grymuso i gydweithio, defnyddio data i wella’r broses o wneud penderfyniadau a bod yn fwy tryloyw.

3 gweithred gyflym ar gyfer elusennau

  • Dechrau drwy ddefnyddio offeryn digidol i wneud cyfarfodydd yn fwy effeithiol. Mae Mentimeter neu Slido yn offer sy’n galluogi pobl i gymryd rhan ac mae’n casglu’r data o’ch trafodaethau mewn fformat digidol.
  • Dechrau drwy ddefnyddio offeryn digidol i wneud cyfarfodydd yn fwy effeithiol. Mae Mentimeter neu Slido yn offer sy’n galluogi pobl i gymryd rhan ac mae’n casglu’r data o’ch trafodaethau mewn fformat digidol.
  • Creu rôl hyrwyddwr digidol yn eich sefydliad er mwyn helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol.

Diwylliant: Arferion sy’n cael eu Hargymell

Helpwch eich staff a’ch gwirfoddolwyr i gael gwared ar seilos a chreu momentwm o fewn eich sefydliad. Defnyddiwch y canllawiau ymarfer gorau hyn fel rhestr wirio i fesur sut mae diwylliant eich sefydliad yn dod yn ei flaen.

Rydym wedi amlinellu’r arferion gorau yn seiliedig ar faint eich elusen. Rydym yn diffinio elusennau bach fel y rheini sydd ag incwm blynyddol o £1 miliwn neu lai, ac elusennau mwy fel y rheini sy’n cynhyrchu incwm sydd dros £1 miliwn y flwyddyn.

one_Knowsley

Astudiaeth achos:

One Knowsley

Dysgwch sut mae One Knowsley yn defnyddio’r Cod i gynyddu ei effaith, gweithio gydag uwch dimau a chymryd camau ymarferol tuag at lwyddiant digidol.

Egwyddor Nesaf: Strategaeth

Dylai strategaethau elusennau fod yn uchelgeisiol ynghylch sut y gallant ddefnyddio eu gweledigaeth a'u cenhadaeth.

Trwy ddeall anghenion digidol eu rhanddeiliaid a sut maent yn cyd-fynd â nodau'r elusen, byddant yn gallu gwella perthnasedd a chynaliadwyedd eu sefydliad.

11-01