COVID-19

Rydyn ni’n byw drwy gyfnod ansicr na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae argyfwng y Coronafeirws yn newid sut mae elusennau’n defnyddio technoleg ddigidol i weithio, i godi arian ac i gynnig gwasanaethau.

Efallai eich bod yn ystyried sut i addasu eich ffyrdd o weithio a’ch gwasanaethau, neu’n edrych ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf mewn perthynas â materion digidol. Mae gennym adnoddau a fydd yn helpu.

Mae un o bartneriaid y Cod, The Catalyst, wrthi’n ymchwilio i sut mae elusennau’n addasu i’r realiti newydd hwn ac yn ymgysylltu â’r byd digidol. Byddwn yn cefnogi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu am anghenion defnyddwyr drwy ddiweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gydag adnoddau i’ch helpu. 

Os hoffech chi siarad ag arbenigwr am unrhyw heriau digidol rydych chi’n eu hwynebu yn ystod Covid-19, beth am archebu ymgynghoriad 1 awr yn rhad ac am ddim ar Digital Candle.

Sgiliau digidol a gweithio o bell

Cynnwys
    Add a header to begin generating the table of contents

    Cyflenwi gwasanaethau digidol

    Cynhwysiant digidol

    Beth rydyn ni’n ei wneud nesaf gydag adnoddau digidol?

    Y camau nesaf

    Byddwn yn ychwanegu at y dudalen hon ac yn creu cynnwys newydd, gan gynnwys gweminarau, i’ch helpu chi drwy gydol yr argyfwng, felly cadwch lygad am newidiadau. 

    Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am adnoddau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost ataf i charitydigitalcode@zoeamar.com

    Y Cod mewn 7 Wythnos

    Os ydych chi eisiau helpu eich elusen i ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu ei heffaith, i berswadio eich tîm arwain i gefnogi digidol neu i ddeall sut gall eich elusen ddilyn arferion gorau, beth am gofrestru i dderbyn e-bost unwaith yr wythnos dros y 7 wythnos nesaf i’ch helpu chi i ddechrau arni gyda’r Cod?

    20-01

    “Fel unrhyw sefydliad, gall elusennau ddysgu llawer am yr hyn maen nhw’n ei wneud, pwy maen nhw’n ei wasanaethu a’r effaith maen nhw’n ei chael drwy ddefnyddio eu data.”

    Giselle

    Giselle Cory

    Cyfarwyddwr Gweithredol, DataKind UK a Hyrwyddwr y Cod

    “Nid yw bellach yn ddigon da dweud fel Prif Weithredwr:
    ‘Does gen i ddim diddordeb mewn pethau digidol’.”

    James-Blake

    James Blake

    Prif Swyddog Gweithredol, YHA (Cymru a Lloegr) a Hyrwyddwr y Cod